Economi ranbarthol Cymru

Siart cylch yn dangos arwynebedd tir amaethyddol yng Nghymru

Oherwydd tirwedd nodweddiadol Cymru, defnyddir tua 80% ohoni ar gyfer amaethyddiaeth; mae rhyw ddeng mil ar hugain o ffermydd ar draws y wlad.[1] Ar y cyfan, tir mynyddig gydag ucheldiroedd bugeiliol sydd yn y gogledd, y canolbarth a'r gorllewin. Yn y de-ddwyrain y mae diwydiant wedi'i ganoli, yn bennaf o gwmpas dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Ers y Chwyldro Diwydiannol, mae'r farchnad lafur wedi mudo'n raddol i ardaloedd diwydiannol ac felly mae poblogaeth y wlad wedi'i chanoli yn yr ardaloedd dinesig. Lleolir y diwydiant pysgota ar hyd Môr Hafren.

  1.  Proffiliau Diwydiannau Allweddol. GO Wales. Adalwyd ar 29 Chwefror, 2008.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search